Ysmygu
Oeddet ti’n gwybod nad wyt ti ers mis Hydref 2008 yn gallu prynu sigarét os wyt ti o dan 18.
FFAITH: Dechreuodd 70% o oedolion sydd yn ysmygu wneud hynny rhwng 11 ac 15 mlwydd oedFFAITH: Gall ysmygwr 20 y dydd wario dros £1,500 y flwyddyn ar sigaréts
FFAITH: Ynghyd a tybaco mae yna 4,000 o gemegau eraill mewn sigaréts, gyda nifer ohonynt yn wenwynig
Amser i roi’r gorau iddi!
Pam na wnei di fachu ar y cyfle i roi’r gorau i ‘smygu? Ffonia 0800 085 2219 am gyngor cyfrinachol am ddim neu cer i dy siop fferyllydd lleol neu siarada hefo’r nyrs ysgol
Efallai dy fod di wedi clywed y ffeithiau o’r blaen, ond maen nhw’n wir!
- Mae ysmygu yn newid y ffordd ti’n edrych.
- Mae o’n gwneud i dy wallt a dy ddillad arogli’n ddrwg ac yn melynu dy ddannedd.
- Mae’n dy adael gyda chroen crebachlyd a bysedd a gewynnau melyn.
Os wyt ti’n ysmygu dim ond 10 sigarét y dydd mae hynny’n meddwl 3,650 sigarét y flwyddyn. Mae hynny’n costio o gwmpas £770! Mi faset ti di gallu:
- Llawr lwytho 962 o ganeuon
- Hedfan i Florida, dwywaith
- Treulio 3 wythnos ar wyliau yn Ibiza.
Pan wyt ti’n rhoi’r gorau i ysmygu mae dy gorf a dy waled ar eu hennill. Dim ond y ti all wneud y penderfyniad - felly ydi hi’n amser i roi’r gorau iddi?








