Damweiniau ac anafiadau

Accidents and injuries

Gall damweiniau ac anafiadau ddigwydd i unrhyw un unrhyw amser ond fe elli di gymeryd camau syml i leihau’r risg.

Diogelwch ffyrdd

Mae gormod o yrwyr a theithwyr ifanc yn cael damweiniau ar y ffyrdd bob blwyddyn.

Anelir y cynllun Pass Plus Cymru at yrwyr ifanc rhwng 17 a 25 oed, sydd wedi pasio'u prawf gyrru’n ddiweddar. Mae'n rhoi sgiliau gyrru a phrofiad ychwanegol iddyn nhw er mwyn helpu i leihau'r risg o gael damweiniau.

speed sign

Mae'r cynllun yn golygu sesiwn theori tair awr, ac wedyn sesiwn wyth awr ar y ffordd gyda hyfforddwr cymeradwy ac mae ar gael ar hyn o bryd yn ardal Gwynedd. Yn ogystal â lleihau'r risg o gael damwain, mae'r cynllun Pass Plus Cymru hefyd yn golygu y gall y gyrrwr ifanc arbed arian ar ei yswiriant car.

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun Pass Plus yng Ngwynedd, cysyllta â Heather Lynne Jones, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd ar 01286 679891.

Nid dim ond ar y ffyrdd mae angen i ti fod yn ofalus, mae edrych ar ôl dy ddiogelwch personol yn bwysig maen sawl ffordd.

Diogelwch ar y We

Always

internet safety
  • Cadwa dy gyfrineiriau yn saff a pad a dweud wrth unrhyw un be ydyn nhw.
  • Bu’n ofalus mewn ‘chat rooms’. Er ei fod o’n dweud ei fod o ar gyfer pobl ifanc yn unig does dim ffordd o wybod os mai dim ond pobl ifanc sy’n ei ddefnyddio. Gall fod yn rhywun yn dy dwyllo.
  • Defnyddia llysenw (nickname) yn lle sy un go iawn mewn ‘chatrooms’, neu pan yn siarad gyda unrhyw un ar y we mewn ffyrdd eraill.
  • Os ydi unrhyw un yn dweud unrhyw beth sydd yn dy wneud di deimlo yn anghyfforddus neu yn dy boeni, gad y ‘chatroom’. Gwna’n siŵr dy fod di’n dweud wrth rhywun fel dy rieni neu ofalwr.
  • Os wyt ti’n siarad gyda rhyw un ar y we, paid a rhannu unrhyw wybodaeth bersonol, yn enwedig dy gyfeiriad, rhif ffon neu enw dy ysgol neu goleg.
  • Pais byth a gyrru dy lun, dy wybodaeth banc, neu cerdyn credit heb siarad gyda oedolyn cyfrifol yn gyntaf.

Cyngor ar sut i fod yn ddiogel ar ben dy hun

cash machine
  • Paid â dangos dy arian neu dy ffon neu fe fydd lladron yn gwybod beth sydd gen ti a beth maen nhw ei eisiau.
  • Cryfder mewn niferoedd – cerdda gyda ffrindiau os yn bosib.
  • Paid â chymryd llwybr cynt yn enwedig os nad oes goleuadau ffordd.
  • Deud wrth rywun lle wyt ti’n mynd a phryd y byddi’n nol.