Cadw’n actif
Argymhellir y dylai pobl ifanc fod yn gwneud o leiaf 60 munud o ymarfer cymedrol 5 gwaith yr wythnos neu 5x60.
FFAITH: Dim ond 35% o oedolion Gwynedd sy'n gwneud yr oriau a argymhellir o weithgarwch corfforol yr wythnos.Dydy’r nod hwn ddim yn anodd ei gyrraedd hyd yn oed os wyt ti yn yr ysgol, mewn prifysgol neu'n gweithio trwy'r dydd neu os wyt ti'n teimlo nad oes gennyt ti'r amser na'r egni, y cyfan y mae angen i ti ei wneud yw dilyn ein hawgrymiadau a'r dolenni i weithgareddau sydd ar gael yng Ngwynedd.
Os gweithgareddau awyr agored sy'n mynd â dy fryd, mae cyfoeth o gyfleoedd i'w canfod yng Ngwynedd.
Maecanolfannau hamdden Gwynedd yn cynnig pob math o weithgareddau am bris gostyngol i bobl ifanc o dan 24 oed.
Fel y gwyddom i gyd mae cyfoeth o lwybrau cerdded yng Ngwynedd sy’n hwylus i bob person yng Ngwynedd. Hyd yn oed os wyt ti’n byw mewn tref, gelli fanteisio ar un o'n 'Teithiau Trefol' niferus sy’n ddelfrydol ar gyfer mynd am dro bach sydyn amser cinio.
Os wyt ti’n teimlo’n anturus, beth am roi cynnig ar Cerdded Nordaidd sy’n ffordd hwyliog a chyffrous o gadw’n heini.
Os wyt ti wedi bod yn wael yn ddiweddar ac am gael ffordd hamddenol o ddychwelyd at gerdded, mae cerdded llwybr iechyd yn ddelfrydol.
Cofia: mae cerddwyr yn dioddef llai o ganser, clefyd y galon, strôc, diabetes a heintiau eraill sy’n lladd. Maen nhw’n byw’n hirach ac yn cael manteision lles ac iechyd meddwl.
Mae seiclo beunyddiol, sy'n golygu dy fod yn anadlu'n drwm ond heb fod wedi colli dy anadl, yn fath effeithiol a phleserus o ymarfer aerobig. Dyma’r math o ymarfer sydd fwyaf effeithiol ar gyfer hybu iechyd da. Er enghraifft, mae seiclo'n lleihau’r risg o gyflyrau difrifol megis clefyd y galon, pwysau gwaed uchel, gordewdra a’r math mwyaf cyffredin o ddiabetes.
Mae taith feic 15 munud i'r gwaith ac yn ôl bum gwaith yr wythnos yn llosgi'r hyn sy'n cyfateb i 11 pwys o fraster mewn blwyddyn.
Gall seiclo gael effaith gadarnhaol ar y ffordd yr ydym yn teimlo hefyd. Canfuwyd bod ymarfer cymedrol yn lleihau lefelau iselder a straen, yn gwella sut y mae pobl yn teimlo ac yn gwella hunan-werth, a chanfuwyd hefyd ei fod yn lleihau symptomau syndrom cyn-y-mislif.
Mae gan Wynedd lawer o lwybrau beicio diogel y gellir eu defnyddio am ddim! Neu ar gyfer y rhai mwy anturus mae llwybrau beicio mynydd arbennig ar gael ar garreg ein drws
Mae loncian neu redeg yn un o’r gweithgareddau gorau y gall y rhan fwyaf o bobl ei wneud i wella’u hiechyd. Gall rhedeg yn rheolaidd helpu pobl i golli pwysau, gwrthsefyll heneiddio a heintiau, a helpu'n gyffredinol i aros yn iach.
Mae nifer o heriau rhedeg y gelli di gyfrannu atynt a hyfforddi ar eu cyfer yng Ngwynedd:
Ras dros fywyd
Rasio'r Trên Tywyn
Beth am roi cynnig ar Her Awyr Agored Gogledd Cymru sy’n mapio llwybrau ar gyfer rhoi un neu fwy o ffyrdd i ti i gael dy 30 munud o ymarfer mewn un lle.
Am fwy o wybodaeth am Ddatblygu Chwaraeon gan gynnwys PESS (AG a Chwaraeon Ysgol), Campau’r Ddraig a Chwaraeon Anabledd Cymru cerwch i weld tudalennau Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd.






