Bwyd a maeth
Mae bwyta’n iach yn golygu mwy na bwyta llwyth o ffrwythau a llysiau, mae’n golygu bwyta diet cytbwys.
FFAITH: Mae dros 50% o drigolion Gwynedd ddim yn bwyta’u 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob diwrnod. Nid dim ond am fwyta digon o ffrwythau a llysiau y mae bwyta’n iach, mae’n golygu bwyta deiet cytbwys.Wyt ti’n gwybod beth sy’n dda i chdi a beth sydd ddim? Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau bwyd lwyth o wybodaeth am fwyta’n iach a mythau bwyd ar gyfer pobl ifanc.
Problemau bwyta:
Dydy bwyta deiet cytbwys iach ddim yn anodd ac mae’r manteision i iechyd yn bellgyrhaeddol.
Gall bwyta'n iach nid yn unig dy helpu i reoli dy bwysau gall hefyd dy helpu di i deimlo'n well a hefyd leihau'r risg o gael salwch a datblygu clefyd difrifol.









