Ysmygu
Helpwch eich ffrindiau a’ch teulu i aros yn ddi-fwg
PAM MAE SMYGU'N DDRWG I CHDI?
Mae pobl sy'n smygu'n fwy tebygol o ddatblygu rhai mathau o salwch fel canser a chlefyd y galon wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
Edrycha beth y mae smygu’n gallu’i wneud i dy ysgyfaint!
Mae smygu hefyd:
- Yn rhoi gwynt drwg i chdi
- Yn staenio dy ddannedd
- Yn rhoi crychau i chdi wrth i chdi fynd yn hŷn
- Yn staenio dy fysedd a d'ewinedd
- Yn gwneud i dy ddillad ddrewi






