Damweiniau ac anafiadau

Accidents and injuries

Mae defnyddio’r we yn ffordd hwyl o gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu.

Mae sawl ffordd o wneud hynny, gan gynnwys IM, ystafelloedd sgwrsio a thrwy blogiau.

laptop

Mae rhai pobl wedi cwrdd â’u ffrindiau gorau drwy siarad ar-lein. Ond mae yna hefyd rhai pobl cas sy’n defnyddio’r we i gwrdda pobl, felly rwyt ti angen cadw dy hun yn saff wrth gael hwyl.

Sgwrsio

Mae sawl ffordd y gelli di fod yn ofalus pan wyt ti’n siarad efo pobl dros y we. Dyma rhai o’r pethau y dylet ei wneud:

  • Gofynna i dy fam, dad neu bwy bynnag sydd yn edrych ar dy ôl os cei siarad efo pobl dros y we. Gallent dy helpu i wneud hynny’n ddiogel.
  • Pan wyt ti’n defnyddio ystafelloedd sgwrio neu ‘instant messegers’ dylet ddefnyddio llysenw (‘nickname’) yn lle dy enw go iawn.
  • Pais byth s dweud wrth unrhyw un dwyt ti ddim yn ei adnabod fel arall dy gyfeiriad, enw na pa ysgol rwyt ti’n mynd iddo.
  • Gofyn i dy fam, dad neu athro i dy helpu os wyt ti newydd ddechrau siarad efo rhywun newydd ar y cyfrifiadur. Gallent dy helpu i lenwi unrhyw ffurflenni yn gywir a saff.
  • Gall rhai pobl sydd ar y we fod yn dweud celwyddau am bwy ydyn nhw. Tydi hi ddim yn syniad da i gwrdd ag unrhyw un dwyt ti ddim ond yn ei adnabod drwy siarad ar y cyfrifiadur.