Tu mewn i focs bwyd iach
Gall cinio pecyn fod yn hwyl, yn iach ac yn flasus hefyd!
Dewiswch rywbeth o’r pedwar prif grŵp bwyd, ychwanegwch ddiod ac i ffwrdd â chi!
- 1. Bwydydd i'ch Llenwi
Defnyddiwch ddigon o fara, rholiau neu fara pitta i wneud brechdan a rhoi egni i chi. Fel newid, defnyddiwch basta, tatws neu reis i wneud salad. - 2. Brechdanau Bendigedig
Mae cig, pysgod ac wyau yn ffynonellau da o brotein ac maent yn flasus mewn brechdanau. Mae’r bwydydd hyn yn helpu plant i dyfu. - 3. Cynhyrchion Llaeth
Mae’r grŵp hwn yn bwysig i blant sy’n tyfu; mae’r calsiwm mewn llaeth, caws a iogwrt yn helpu esgyrn eich plant i dyfu’n gryf. - 4. Ffrwythau
Mae bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd yn eich helpu i aros yn ffit ac yn iach. Ceisiwch gynnwys darnau o ffrwythau neu lysiau yn y bocs bwyd. - Diodydd
Dewiswch o’r rhestr ganlynol: Llaeth | Sudd Ffrwythau Pur | Dwr | Diod sqwash Heb Siwgr - Danteithion?
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys bwydydd sy’n llawn braster a siwgr, e.e. teisennau, bisgedi, creision a siocled. Ceisiwch fwyta llai o’r bwydydd hyn!
Tarwch olwg dros syniadau bocsys bwyd iach.









