Smwddi Ffrwythau

Smoothies

Am ffordd hawdd i gael eich 5 y dydd beth am drio gwneud smwddi ffrwythau, mae o’n hawdd, rhad ac iach!

AWGRYM: Trïwch ddefnyddio gwahanol fathau o ffrwythau ffres, tun ynghyd a mathau eraill o iogwrt.

Cynhwysion

  • 300ml (1/2 peint) o lefrith hanner sgim
  • 1 carton o iogwrt ffrwyth
  • 1 banana
  • 4-6 o fefus

Offer

  • Cymysgydd (Blender)
  • cyllell
  • a bwrdd torri
  • (Gofynnwch i oedolyn i’ch helpu)

Beth i’w wneud

  1. Rhowch y ffrwythau, iogwrt a llefrith yn y cymysgydd am 30 eiliad – gwnewch yn siŵr fod y caead ymlaen.
  2. Edrychwch i weld os yw ffrwythau wedi cymysgu. Os ddim rhowch y cymysgydd ymlaen eto.
  3. Arllwyswch y cymysgedd i mewn i wydrau.