Bwyd a maeth

Food and nutrition

Mae bwyta deiet cytbwys ac iach yn bwysig faint bynnag yw dy oed!

Mae bwyd yn wych ac mae bwyd yn grêt, ond gall bwyta gormod o un peth, neu ddim digon o rywbeth arall, fod yn ddrwg i'ch iechyd. Fel y gelli ddysgu mwy am fwyd gall ein ffrindiau'r ffrwythau ar llysiau dy helpu.

pam mae'r hyn yr ydym yn ei fwyta'n bwysig?

Gadewch i’n ffrindiau y ffrwythau a’r llysiau esbonio!

Mae beth yr ydych yn ei fwyta a faint yn bwysig iawn, ond sut mae gwybod pa fwydydd y dylech eu bwyta?

Mae model y Plât Bwyta'n Dda yn dangos i chi pa fathau o fwyd y dylech chi fwyta mwy ohonyn nhw a pha rai y dylech chi fwyta llai ohonyn nhw er mwyn cael deiet cytbwys.

Ffrwythau a llysiau
Dylech chi fwyta digon o ffrwythau o llysiau – o leiaf 5 dogn y diwrnod. Gallan nhw fod yn ffres, wedi rhewi neu mewn tun. Mae ffrwythau a llysiau’n ffynonellau da o fitaminau a mwynau sy’n helpu i gadw'ch corff, eich dannedd a'ch croen yn iach.
Bwydydd starts
Dyma fwydydd megis bara, reis, tatws, pasta a grawnfwydydd grawn cyflawn, ac mae’n bwysig iawn eich bod yn bwyta digon ohonyn nhw i gadw’n iach. Maen nhw’n rhoi digon o egni i chi i'ch cadw i fynd drwy'r dydd!
Llaeth a chynnyrch llaeth
Mae llaeth a chynnyrch llaeth fel caws yn cynnwys lot o brotein a chalsiwm sy’n cadw’ch esgryn yn iach ac yn eich gwneud yn gryfach!
Cig a physgod
Mae cig yn ffynhonnell dda o brotein a fitaminau a mwynau, fel haearn. Tynnwch unrhyw fraster oddi ar y cig fel na fyddwch yn bwyta llawer o fraster drwg. Dylem fwyta o leiaf dau ddogn o bysgod bob wythnos yn cynnwys un dogn o bysgodyn olewog – bydd hyn yn cryfhau’ch esgyrn a’ch cadw chi’n iach.
Bwyd a diod sy'n uchel mewn braster a/neu siwsg
Cofiwch mai dim ond ychydig o fwyd a diod uchel mewn braster a/neu siwgr y dylech eu cael.