Mwg ail-law
beth yw mwg ail-law a’r hyn y gallwch ei wneud amdano?
ANGHYFREITHLON: Erbyn hyn mae smygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru yn anghyfreithlon.Mae cyflwyno’r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru yn gam sylweddol ymlaen, o ran diogelu iechyd cyflogeion a’r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law. Amcangyfrifir y caiff 400 o farwolaethau eu hatal ymhlith pobl nad ydynt yn smygu bob blwyddyn yng Nghymru nawr bod y gyfraith hon mewn grym.
Mae’r daflen hon yn edrych ar beth yw mwg ail-law, a sut y gall effeithio ar eich iechyd. Mae hefyd yn ystyried amgylcheddau eraill lle y gallech chi neu eich teulu ddod i gysylltiad â mwg ail-law, ac mae’n rhoi cyngor ar ffyrdd o leihau’r risgiau yn y sefyllfaoedd hyn.
Beth yw mwg ail-law?
Mwg tybaco pobl eraill yw mwg ail-law. Mae hefyd yn cael ei alw’n smygu goddefol.
Mae mwg tybaco yn yr atmosffer hefyd yn fwg ail-law.
Mwg ail-law yw un o brif ffynonellau llygredd aer dan do. Mae’n gallu achosi clefyd y galon a chanser yr ysgyfaint, ac yn dwysáu anhwylderau fel asthma.
Mae dau fath o fwg ail-law:
- Mwg prif ffrwd sy’n cael ei anadlu i mewn ac allan gan smygwyr.
- Mwg llif ochrol sy’n deillio o fôn sigarét neu sigâr ac sy’n cynrychioli 85 y cant o’r mwg mewn awyrgylch llawn mwg. Mae’r math hwn o fwg yn cynnwys mwy o docsinau a nicotin na mwg prif ffrwd.
Beth mae mwg tybaco’n ei gynnwys?
PERYGL: Mae mwg tybaco yn cynnwys cymysgedd o tua 4,000 o gemegion, y mae llawer ohonynt yn wenwynig, ac yn achosi canser a chlefyd y galon.Mae tua 4,000 o gemegion gwahanol mewn mwg tybaco. Mae llawer ohonyn nhw’n wenwynig, a gall rhai achosi canser. Tri o’r prif sylweddau yw:
- Nicotin – cyffur pwerus sy’n hawdd mynd yn gaeth iddo. Mae’n cynyddu cyflymder y galon a phwysedd gwaed, ac yn effeithio ar ymddygiad a hwyliau pobl. Mae nicotin hefyd yn bryfleiddiad.
- Tar – mae’n ffaith bod llawer o’r sylweddau mewn tar yn gallu achosi canser. Gall hefyd niweidio’r ysgyfaint.
- Carbon monocsid – nwy sy’n disodli’r ocsigen yn y gwaed, gan olygu bod yr ysgyfaint yn llai effeithlon ac yn rhwystro’r celloedd a’r meinweoedd rhag cael yr ocsigen sydd ei angen arnynt i weithio’n gywir. Carbon monocsid yw’r nwy gwenwynig sydd mewn mwg ecsôsts ceir.
Mae’r cemegion eraill sydd mewn mwg tybaco’n cynnwys:
- Bensen – nwy gwenwynig sydd mewn nwyon petrol, sy’n gallu achosi lewcemia.
- Ethanol – sydd mewn gwrthrewyddion.
- Amonia – sydd mewn chwistrellau gwrth-bersonél a chynhyrchion glanhau.
- Fformaldehyd – hylif embalmio.
- Hydrogen syanid – llygrydd diwydiannol.
- Hydrocarbon polysyclig aromatig (PAH) – cemegyn sydd mewn mwg ecsôsts disel a chynhyrchion llosgi eraill, sy’n achosi canser.
Effeithiau mwg ail-law
RHYBUDD: Nid oes lefel ddiogel o ran dod i gysylltiad â mwg ail-law.Effeithiau y gallech sylwi arnynt yn syth:
- Peswch
- Cur pen
- Llygaid yn cosi
- Dolur gwddw
- Tisian a thrwyn sy’n rhedeg
- Teimlo’n sâl
- Problemau anadlu (a phwl o asthma o bosibl)
- Y galon yn curo’n anghyson (problem arbennig i’r rhai sydd â chlefyd y galon)
Effeithiau tymor hir:
- Problemau’r frest ac alergeddau megis asthma, clefyd y gwair, broncitis ac emffysema yn gwaethygu.
- Mwy o berygl o gael clefyd y galon.
- Mwy o berygl o gael canser yr ysgyfaint.
- Gall merched beichiog sy’n anadlu mwg ail-law basio’r nwyon a’r cemegion niweidiol i’w babanod.
Mwg ail-law a phlant
DIOGELU: Mae babanod a phlant sy’n dod i gysylltiad â mwg ail-law ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef pyliau o asthma a heintiau’r frest.Gall mwg ail-law effeithio’n waeth ar blant oherwydd bod eu cyrff yn dal i ddatblygu. Mae babanod sy’n anadlu mwg ail-law mewn mwy o beryg o farw yn y crud. Mae plant yn cael mwy o byliau o asthma a heintiau’r frest ac yn fwy tebygol o ddioddef heintiau ar y glust a ‘chlust ludiog’. Mae rhywfaint o waith ymchwil sy’n awgrymu bod cysylltiad rhwng mwg ail-law a llid yr ymennydd (meningitis).
Yn aml, nid oes gan blant fawr o ddewis ynglyˆn â bod mewn awyrgylch mwg ail-law, felly cyfrifoldeb yr oedolion yw eu diogelu nhw. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn mynnu bod gan bob plentyn yr hawl i dyfu i fyny mewn amgylchedd heb fwg.
Os hoffech gael cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu plant rhag mwg ail-law, darllenwch y daflen ‘D am diogelu babanod a phlant rhag smygu goddefol’. Gallwch gael copïau drwy anfon neges e-bost i Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Mwg ail-law y tu ôl i ddrysau caeëdig…
DATGELU: Gall mwg ail-law gynyddu’r risg o glefyd y galon 25 y cant, a chanser yr ysgyfaint 24 y cant, mewn pobl nad ydynt yn smygu.Nawr bod mannau cyhoeddus caeëdig yn ddi-fwg, mae’n llawer haws osgoi amgylcheddau myglyd pan fyddwch allan. Mae’r gyfraith smygu newydd yn gwahardd smygu ym mhob man cyhoeddus, sy’n cynnwys gweithleoedd. Fodd bynnag, yn aml y lleoedd lle y teimlwn fwyaf diogel sy’n achosi’r risg fwyaf. Mae’r adran nesaf yn amlinellu’r camau y gallwch eu cymryd, er mwyn osgoi amgylcheddau myglyd sydd y tu ôl i ddrysau caeëdig.
Yn y cartref
Os ydych yn smygu - diogelwch eraill rhag eich mwg tybaco drwy gadw eich cartref yn ddi-fwg - smygwch y tu allan bob amser.
Os nad ydych yn smygu - diogelwch eich hun a’ch teulu rhag mwg ail-law drwy gadw eich cartref yn ddi-fwg - gofynnwch i aelodau o’r teulu ac i ymwelwyr smygu y tu allan bob amser. A dweud y gwir - nid oes unrhyw un yn hoffi dweud wrth ffrindiau neu aelodau o’r teulu lle y gallant ac na allant smygu. Fodd bynnag, nid yw mwg tybaco mor gwrtais, a gall aros am oriau mewn amgylcheddau caeëdig. Os ydych wedi caniatáu i rywun smygu yn eich cartref, agorwch y ffenestri neu’r drysau er mwyn awyru’r ystafell cyn gynted â phosibl.
Yn y car
AMLYGU: Amcangyfrifir bod mwg ail-law yn gyfrifol am fwy na 10,000 o farwolaethau cyn pryd y flwyddyn yn y DU.Mae’r gyfraith smygu newydd yn eich diogelu pan fyddwch yn defnyddio pob math o drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, pan fyddwn yn ein ceir, neu’n rhannu car, nid oes gennym yr un lefel o ddiogelwch. Dyma rai awgrymiadau i gadw eich teithiau’n ddi-fwg.
Os ydych yn smygu - Diogelwch eich teithwyr pan fyddwch yn teithio drwy smygu cyn i chi gychwyn ar daith fer, yn hytrach na smygu yn y car. Ac ar teithiau hwy, arhoswch, a smygwch y tu allan i’r car yn ddigon pell o’ch teithwyr eraill.
Os nad ydych yn smygu - Mae rhannu car yn ecogyfeillgar ac yn ffordd dda o gadw eich costau petrol yn is ac arbed arian. Fodd bynnag, ystyriwch yr effaith y gallai rhannu car gyda smygwr ei chael ar eich iechyd. Efallai y gallech awgrymu eu bod yn cymryd y camau a nodir uchod os teimlwch fod eich iechyd mewn perygl. Nid argymhellir rhannu car ar deithiau hir os yw eich gyrrwr neu deithiwr yn benderfynol o smygu yn y cerbyd.
Cofiwch, y ffordd orau o ddiogelu eich hun a phobl eraill rhag effeithiau mwg tybaco yw rhoi’r gorau i smygu. I gael cyngor cyfeillgar ac ymarferol ar roi’r gorau i smygu, ffoniwch y Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru ar radffon 0800 169 0 169.
Hoffech chi gymorth i roi’r gorau i smygu?
LLWYDDIANT: Rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o lwyddo i roi’r gorau i smygu drwy ddefnyddio eich Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu lleol wedi’i gyfuno â Therapi Disodli Nicotin, yn hytrach na thrwy ewyllys yn unig.Ffoniwch y Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru ar 0800 169 0 169 am gyngor cyfeillgar ac ymarferol ar roi’r gorau i smygu. Gall cynghorydd eich rhoi mewn cysylltiad â’ch gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu lleol hefyd.
Gallwch hefyd gysylltu âch gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu lleol yn uniongyrchol i gael cyngor a chymorth cyfeillgar am ddim i’ch helpu i roi’r gorau iddi. Cysylltwch â Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu Cymru Gyfan ar 0800 085 2219.








