Ysmygu
Nod Grŵp Rheoli Tybaco Gwynedd yw codi ymwybyddiaeth o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn ogystal â rhoi cynlluniau atal ar waith er mwyn ceisio lleihau’r niferoedd sy'n dechrau ysmygu yn y lle cyntaf.
FFAITH: Mae 31% o oedolion Gwynedd yn cyfaddef eu bod yn ysmygu. Dyma’r ail ffigur uchaf yng Nghymru ac mae’n peri pryder mawrPam rhoi'r gorau i ysmygu?
Smygu sy’n achosi bron i 90% o’r marwolaethau o ganser yr ysgyfaint, o gwmpas 80% o farwolaethau o froncitis ac emffysema, ac oddeutu 17% o farwolaethau o glefyd y galon.
Gellir cysylltu bron i draean o’r holl farwolaethau o ganser ag ysmygu. Mae’r rhain yn cynnwys canser yr ysgyfaint, y geg, y gwefusau, y gwddw, y bledren, yr arennau, y stumog, yr iau a cheg y groth.
Mae pobl sy’n ysmygu rhwng 1 a 14 sigarét y diwrnod wyth gwaith yn fwy tebygol o farw o ganser yr ysgyfaint na phobl nad ydynt yn ysmygu.
Mae rhoi’r gorau i ysmygu’n lleihau’r risg o ddatblygu llawer o’r clefydau sy’n gallu’ch lladd chi.
Flwyddyn ar ôl rhoi'r gorau iddi, mae'r risg o drawiad ar y galon yn disgyn i oddeutu hanner y risg i berson sy'n ysmygu, ac ymhen 5 mlynedd mae'n disgyn i'r un lefel â pherson sydd ddim yn ysmygu. O fewn 10-15 mlynedd i roi’r gorau iddi dim ond ychydig yn fwy yw’r risg i berson a arferai ysmygu ddatblygu canser yr ysgyfaint na pherson sydd ddim yn ysmygu.
Sut i roi'r gorau iddi
I gael cymorth a chefnogaeth i roi’r gorau i ysmygu, cysylltwch â’ch fferyllfa leol neu ffoniwch y Gwasanaeth Dim Smygu Cymru sy’n helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu ar 0800 085 2219.
Y gwaharddiad ar ysmygu
Daeth Cymru’n wlad ddi-fwg ar 2 Ebrill 2007. Prif nod y gwaharddiad yw gwarchod gweithwyr a’r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law mewn gweithfannau neu fannau cyhoeddus caeedig neu sylweddol gaeedig.
Os oes gennych chi gwestiynau am sut y mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio arnoch chi neu os hoffech chi gael arweiniad am beth sy'n lloches ysmygu derbyniol gallwch fynd i wefan gwahardd smygu Cymru.








