Afiechydon
Mae Afiechydon a drosglwyddi’r yn rhywiol yn cynyddu – be allwch chi ei wneud i wneud yn siŵr nad ydych yn ystadegyn?
Afiechydon a Drosglwyddi’r yn Rhywiol
FFAITH: Mae heintiau sy'n cael eu trosglwyddo'n rhywiol yn un o brif achosion salwch a marwolaeth ar draws y byd. Mae cyfraddau HIV yng Ngwynedd ymysg yr uchaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd ac Abertawe.Mae ymarfer rhyw diogel yn golygu eich bod yn gallu mwynhau rhyw mewn dull sydd yn amddiffyn eich wich iechyd a lles. Gan fod rhyw diogel yn lleihau eich risgiau fe allwch ymlacio a mwynhau rhyw hyd yn oed fwy.
Am fwy o wybodaeth ar afiechydon a drosglwyddi’r yn rhywiol (STI’s) a sut i amddiffyn eich hun edrychwch ar wefan y‘family planning association’.
Dros 50?
Tydi afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol ddim yn gwahaniaethu rhwng berson 18 mlwydd oed a pherson 80 mlwydd oed – mae’r un risgiau yn bresennol pan yn ymgymryd a actifedd rhywiol tebyg ar draws yr ystod oedran gyfan.
Dulliau Atal Cenhedlu
Mae llawer math o ddulliau atal cenhedlu i’w cael gan eich doctor neu glinig cynllunio teulu. I weld pa rai y byddai orau ichi sgwrsiwch gyda eich doctor neu edrychwch ar wefan y ‘family planning association’ am gyngor cyfredol.






