Iechyd Meddwl Da

Adults home page FFAITH: Fe fydd gan un o bob 4 person broblem gyda'u hiechyd meddwl a rhyw bwynt yn eu bywydau. Tydi iechyd meddwl da ddim yn rhywbeth y gell di gymryd yn ganiataol – mae edrych ar ôl dy feddwl y ru’n mor bwysig ac edrych ar ôl dy gorff.

Bath mae iechyd meddwl yn ei feddwl?

Mae’r gair ‘meddwl’ yn disgrifio meddyliad, teimladau ac eich dealltwriaeth ohonoch chi eich hunain ar byd o’ch cwmpas.

Mae’r gair ‘iechyd’ yn golygu yn golygu sut mae’r meddwl yn gweithio.


Afiechyd Meddwl

anxiety

Weithiau mae pethau yn mynd o’i le yn ein cyrff. Rydym yn dal haint ac yn mynd yn sâl neu fe allwn frifo mewn damwain. Yn y ru’n ffordd, gallwn gael problemau gyda’n hiechyd meddwl. Mae gwahanol fathau o afiechydon meddwl, fel iselder, pryder a sgitsoffrenia.


Trallod Meddyliol

Os ydym yn cael problemau gyda’n iechyd meddwl fe allwn deimlo’n:

  • drist
  • poenus
  • cymysglyd
  • blin
  • anobeithiol
  • dagreuol
  • ofn
  • cythruddol
  • llawn-panic
  • dideimlad
  • euog
 
 

Yn ychwanegol fe allwn feddwl ein bod yn:

  • diserch
  • euog
  • drwg

Fe all y teimladau yma fod mor gryf maent yn ein gorlethu. Rydym yn teimlo eu bod yn ormod i ymdopi ac rydym yn teimlo eu bod yn ormod i ymdopi gydag ac yn peri gofid.

Awgrymiadau Ar Gyfer Iechyd Meddwl Positif

Nid yw aros yn feddyliol iach ddim ond trin afiechyd. Mae yn lawer o bethau y medrwn ei wneud i’n helpu i beidio â bod yn sâl yn y lle cyntaf, a llawer mwy y medrwn ei wneud os ydym (neu'r rhai o’n cwmpas) yn ymladd problem.

Felly i’ch helpu rydym wedi rhoi’r ‘Top Tips’ yma at ei gilydd. Peidiwch â’u cadw i chi eich hunain—gadewch i’ch teulu, ffrindiau a chydweithwyr wybod. Dylai pawb wybod yr awgrymiadau hyn.

Siarad am eich teimladau

Gall rhannu eich teimladau gydag eraill a chael gwrandawiad eich helpu yn fawr iawn.

coffee

Mae’r weithred o drio i roi ein teimladau i mewn i eiriau yn gwneud i ni deimlo yn well am y sefyllfa a gall leihau’r broblem.

Os nad oes unrhyw un rydych yn teimlo y gallwch ymddiried ynddynt e-bostiwch neu galwch linell Gymorth. Drwy siarad gydag eraill fe allwn gael persbectif newydd ar beth sy’n digwydd i ni - rhywbeth sydd ddim yn dod yn hawdd os ydym yn cael ein heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.

Os ydym yn siarad gydag unrhyw un am beth sy’n digwydd, gallant gynnig awgrymiadau defnyddiol am le i fynd i gael cymorth neu gefnogaeth.

Os ddim gall gwybod fod rhywun arall wedi ymdrechu i ddallt helpu tuag at deimlo’n well.

Ysgrifennwch am eich teimladau

writing

Gall ysgrifennu i lawr beth bynnag sydd yn ein poeni ein galluogi i feddwl yn gliriach a lleihau ein problemau. Mae rhai sefydliadau (e.e. Y Samariaid, Childline) yn rhedeg llinellau cymorth e-bost—ardderchog i'r rhai ohonom sydd yn ei gweld yn anodd siarad.

Mae llawer o bobl yn darganfod fod cadw cofnod o deimladau a meddyliau yn eu helpu i ddallt sut mae eu iechyd meddwl yn newid dros amser.

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol, gan fod gan ddoctoriaid ddim ond amser byr i’n gweld, i ysgrifennu o flaen llaw beth sy’n bod fel eu bod yn cael y wybodaeth gywir.

Cadwch yn actif

Mae ymarfer corfforol wedi ei brofi fel dull o gadw’n feddyliol iach. Gall ymarfer corff yn ein gwneud ni deimlo’n well drwy ryddhau cemegau ymgodol i’n cyrff.

Gall hanner awr o gerdded bob yn ail ddiwrnod wneud gwahaniaeth. Gall ymuno gyda’r ‘gym’ neu wneud chwaraeon fod yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd a gwneud pethau newydd. Am fwy o wybodaeth cymerwch gipolwg ar dudalennau ymarfer egniol y wefan hon.

Bwyta’n gall

healthy food

Mae diet cytbwys yn hanfodol ar gyfer cynnal iechyd meddwl da. Mae gwaith ymchwil yn dangos fod cyswllt cryf rhwng beth rydym yn ei fwyta a sut rydym yn teimlo.

Mae Mind, elusen iechyd meddwl, wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol ar fwyd a hwyliau. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â thudalennau bwyta’n iach y wefan hon.

Yfwch yn gymedrol

Mae osgoi gormod o alcohol yn bwysig ar gyfer ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn enwedig pan rydym yn teimlo’n isel neu bryderus. I weld arweiniad ar faint o unedau sydd mewn diodydd alcoholig tarwch olwg dros dudalennau alcohol y wefan hon.

Cadwch mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau

friends

Gall perthnasau agos gael effaith mawr ar sut mae rhywun yn teimlo o ddydd i ddydd. Gall galwad ffôn, e-bost neu neges destun neu ddau ein helpu i deimlo’n gysylltiedig i’r rhai rydym yn eu caru. Neu beth am gwrdd i fyny am goffi sydyn?

Ar gyfer pobl sydd yn teimlo’n isel gall cyswllt cymdeithasol rheolaidd wneud llawer o wahaniaeth - ond peidiwch â disgwyl iddyn nhw gysylltu gyda chi.

Gall codi’r ffon fod yn anodd iawn i rywun mewn iselder. Ond fe fydd y cymorth fydd y person yna yn ei deimlo ar ôl yr alwad ffôn, e-bost neu decst yn llawn gwerth yr ymdrech.

Mynd am wyrdd

Mae treulio amser mewn llecynnau gwyrdd yn tawelu’r meddwl ac yn helpu i godi’r ysbryd.

go green

Mentrwch allan am daith gerdded neu ar y beic, neu gwnewch ychydig o arddio. Os nad oes ganddo’ch gardd eich hun cysylltwch gyda phrosiectau cadwraeth neu gymunedol lleol. Neu ymunwch gyda chlwb rhedeg neu feicio.

Gallech gael fwy o ‘amser gwyrdd’ drwy gerdded i’r gwaith.

Cerwch i dudalennau ymarfer egniol y wefan am wybodaeth ar lwybrau cerdded yn eich ardal chi.