Diogelwch yn yr haul

Adults home page

Gofalu am eich croen a gwarchod eich hun rhag yr haul

FFAITH: Fe amcan gyfrifir fod gwlâu haul un cyfrannu tuag at 100 marwolaeth o felanoma pob dydd yn y DU

Mae canser y croen yn dod yn fwyfwy cyffredin yn y DU. Yn amlach na pheidio mae’n gysylltiedig â chael gormod o haul a llosg haul - ffactorau y mae'n ddigon hawdd eich diogelu'ch hun rhagddynt. Edrychwch ar yr arweiniad canlynol ar atal canser y croen gan Canser Research UK.

Llwytho oddi ar y we Atal canser y croen – Sut i Herio’r Haul

Gall canfod canser y croen yn gynnar arbed bywydau, ac felly mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth ydy’r arwyddion cyn gynted ag y bo modd. Bydd canser y croen yn aml yn ymddangos fel newid mewn man geni neu ddarn o groen normal. Os digwydd i chi sylwi ar newid, megis newid mewn maint, siap neu liw dros gyfnod o ychydig wythnosau neu fisoedd, dylech fynd i weld eich meddyg.

Canfod canser y croen

Beth os bydda i'n sylwi ar newid?

Os ydych chi’n poeni am newidiadau i'ch croen, ewch i weld eich meddyg ar unwaith. Dylid cymryd unrhyw newid mewn man geni, brychni haul neu ddarn normal o groen sy’n digwydd yn gyflym, dros wythnosau neu fisoedd, o ddifrif.

Cadwch lygad ar eich croen

Efallai bod gennych fannau geni neu ddarnau tywyll ar eich croen sy’n fflat neu wedi codi ychydig. Fel arfer bydd y rhain yn gwbl ddiniwed trwy gydol eich oes. Ond dylech ddangos i’ch meddyg unrhyw fannau geni neu ddarnau normal o groen sy’n newid o ran maint, siâp neu liw dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd.

Am beth ddylwn i fod yn chwilio amdano?

Dowch i adnabod eich croen a chwilio am unrhyw newidiadau. Wrth archwilio eich croen, defnyddiwch y rheol ABCD a fydd yn eich helpu i gofio’r prif arwyddion rhybudd ar gyfer melanoma malaen. Hefyd, cofiwch chwilio am newidiadau eraill a all fod yn arwydd o ganser y croen nad yw'n felanoma sy’n llai difrifol.

Y rheol ABCD

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o’r arwyddion canlynol, ewch at eich meddyg ar unwaith.

  • Anghymesuredd: Dydy dau hanner eich man geni ddim yn edrych yr un fath
  • Borderi: Mae ymylon eich man geni’n afreolaidd, yn aneglur neu’n ddanheddog (jagged)
  • Cymysgliw: Mae lliw eich man geni’n anwastad, ac yn fwy nag un lliw
  • Diamedr: Mae eich man geni’n fwy na 6mm mewn diamedr (maint rhwbiwr pensel)

Arwyddion eraill o ganser y croen

  • tyfiant newydd neu friw nad yw’n gwella
  • smotyn, man geni neu friw sy’n cosi neu’n brifo
  • man geni neu dyfiant sy’n gwaedu, crawennu neu grachennu

(Wedi’i atgynhyrchu gyda diolch i Cancer Research UK)