Themau

Pôl

Oes gennych chi larymau mwg yn eich cartref?



Canlyniadau

Damweiniau ac anafiadau

Adults home page

Rydym i gyd yn cael damweiniau neu’n niweidio’n hunain o bryd i’w gilydd ond wyddoch chi y gallech chi gymryd rhai camau bychain i helpu i leihau'r risg o gael damwain neu anaf.

Teleofal

FFAITH: Yn 2002, fe gafodd dros 230,000 o bobl y DU eu hanafu wrth wneud gwelliannau i’w cartrefi.

Oes ganddo’ch chi ffrind neu berthynas a all gael budd o gefnogaeth technoleg gynorthwyol i’w helpu i deimlo’n saffach yn eu cartrefi a’u galluogi i fyw bywyd annibynnol?

Am fwy o wybodaeth am wasanaeth Teleofal Gwynedd darllenwch y daflen yma.

Diogelwch Tan

Gall tan ddechrau yn hawdd iawn a lledaenu gyda chyflymder dychrynllyd.

Bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, mae dros 68,000 o danau yng nghartrefi pobl, gan arwain at 400 o farwolaethau a 13,800 o anafiadau.

Er mwyn gofyn am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref yn rhad ac am ddim neu i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch tân ffoniwch yr Adran Diogelwch Tân Cymunedol ar 01492 592 987 neu anfonwch e-bost.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Damweiniau yn y Cartref

Mae rhyw 2.8 miliwn o ddamweiniau yn y cartref bob blwyddyn pan fo'r dioddefwr yn mynd i'r Uned Ddamweiniau am driniaeth.

Mae dros 40% o holl anafiadau damweiniol i blant yn digwydd yn y cartref a'r ardd. Syrthio yw'r achos mwyaf cyffredin o anafiadau damweiniol yn y cartref.

Mae peryglon posibl ym mhob cartref, megis dŵr poeth, cemegau domestig, grisiau, lle tân, matsis, alcohol a phethau pigog a miniog fel cyllyll a siswrn.

Gall y canlynol helpu rhwystro damweiniau i blant trwy wneud y cartref yn lle diogelach iddynt:

Syrthio

  • Gosod gatiau diogelwch ar dop a gwaelod grisiau
  • Archwilio rheiliau banister neu falconi i sicrhau na fedr plant ddringo arnynt neu syrthio trwyddynt
  • Cadw dodrefn i ffwrdd o'r ffenestri
  • Glanhau arllwysiadau wrth iddyn nhw ddigwydd i rwystro llithro
  • Sicrhau carpedi a matiau rhydd a pheidio â chael ceblau sy'n llusgo

Llosgi a Sgaldio

  • Gosod larymau mwg a'u harchwilio'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gweithio
  • Cadw plant i ffwrdd oddi wrth boptai, pentan a chylchoedd trydan
  • Troi handlenni i ffwrdd tuag at gefn y stôf a defnyddio'r cylchoedd cefn ar gyfer coginio ble bynnag y bo modd
  • Diffodd yr haearn ar unwaith ar ôl ei ddefnyddio a pheidio â gadael y cebl yn hongian
  • Cadw matsis a thanwyr o'r golwg ac allan o gyrraedd plant bach

Gwenwyno

  • Cadwch holl feddyginiaeth o'r golwg ac allan o gyrraedd plant – cwpwrdd dan glo fyddai orau
  • Cadwch holl sylweddau peryglus yn y cynhwysydd gwreiddiol
  • Cofiwch y gall persawr, olewau persawrus ac alcohol fod yn wenwyn i blant