Bwydo o’r Fron a’r Cynllun Croesawu
Cyngor defnyddiol ar gyfer bwydo eich baban mewn mannau cyhoeddus
Efallai bod meddwl am fwydo eich baban pan nad ydych gartref yn rhywbeth efallai y byddwch yn pryderu yn ei gylch ar y cychwyn ond, gyda rhywfaint o waith cynllunio a pharatoi, gellwch deimlo’n llawer mwy hyderus. Cofiwch nad yw rhan fwyaf o bobl hyd yn oed yn sylweddoli pan fo mam yn bwydo o’r fron?
- Mae top a throwsus neu dop a sgert yn llawer haws ar gyfer bwydo o’r fron na ffrog un darn;
- Mae top llac yn llawer gwell na thop sy’n agor yn y ffrynt. Gellwch roi eich baban dan dop llac heb ddangos gormod
- Fodd bynnag, mae’n well gan lawer o famau wisgo top/cardigan sy’n agor yn y ffrynt neu siaced dros rywbeth arall oherwydd bod hynny’n helpu i osgoi dangos ochr eu bol a’u canol
- Cariwch sgarff cotwm yn eich bag fel bod modd i chi ei roi dros eich ysgwydd ac ar draws y baban os nad ydych yn teimlo’n hollol gyfforddus. Bydd hyn yn edrych yn fwy fel dillad normal na defnyddio cadach mwslin neu flanced babi a fedr wneud y baban yn anghyfforddus o boeth
- Gall magu’r baban yn y “dull crud” dynnu llai o sylw atoch chi eich hun os ydych yn bwydo o’r fron yn gyhoeddus - os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’ch bydwraig neu ymwelydd iechyd sut i fwydo fel hyn
- Mae llawer o famau yn dweud eu bod yn teimlo yn well yn bwydo o’r fron mewn congl e.e. mewn caffi, lle mae ganddynt wal y tu cefn iddynt neu wrth eu hochr. Bydd cael ffrind neu berthynas gyda chi i’ch cefnogi o gymorth i chi yn y dyddiau cynna
- Yn aml iawn, mae ymarfer bwydo o flaen drych mawr yn eich cartref o gymorth, byddwch wedyn yn gweld sut yr ydych yn edrych i bobl eraill. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylwi bod mam yn bwydo o’r fron!
- Os oes gennych gar, mae’n well gan rai mamau fwydo eu baban yn y car ar ôl iddynt gyrraedd fel bod y babi wedi cael ei fwydo cyn i chi fynd i siopa
- Cofiwch byddai’n well gan y rhan fwyaf o lefydd gael baban hapus, distaw yn bwydo na baban yn crio am ei fod eisiau bwyd! Yn fwy na dim, edrychwch yn hyderus a byddwch yn falch eich bod yn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i’ch baban!
Beth yw Cynllun Croesawu Bwydo o’r Fron?
The Breastfeeding Welcome Scheme has been established by the Welsh Assembly Government to identify premises that understand and support the needs of breastfeeding mothers and their babies. The scheme is open to local businesses that provide food or drink, and to hairdressers, shops, libraries and museums, community centres and health centres, in fact anywhere open to the general public.
Sefydlwyd y Cynllun Croesawu Bwydo o’r Fron gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i nodi adeiladau sy’n deall ac sy’n cefnogi anghenion mamau sy’n bwydo o’r fron a’u babanod.
Beth mae’r Cynllun Croesawu Bwydo o’r Fron yn ei olygu:
- Rhaid i fwydo o’r fron fod yn dderbyniol ymhob man sy’n agored i’r cyhoedd;
- Ni ofynnir i fam sy’n bwydo o’r fron symud neu i roi’r gorau;
- Dylid rhoi gwybod i staff am y cynllun a’u dysgu sut i gefnogi anghenion mamau sy’n bwydo o’r fron;
- Unwaith y bydd busnesau lleol wedi cytuno i amodau’r cynllun, gallent arddangos ein sticer ‘Llaeth Mam’ trawiadol, a dangos i famau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac y byddant yn cael cael croeso cynnes;
I fam fydd newydd ddechrau bwydo o’r fron, fe all fod yn brofiad pryderus iddi adael cartref a mentro i’r dref, yn arbennig felly os nad yw hi’n gwybod lle i fynd i fwydo’r baban; felly edrychwch ar y rhestr dros y ddalen i weld pa adeiladau sy’n rhan o’r cynllun yng Ngwynedd a Môn.










