Bwyd a maeth
Croeso i dudalennau gwefan Her Iechyd Gwynedd ar gyfer oedolion. Dyma’ch siop un stop ar gyfer pob agwedd ar les ac iechyd yng Ngwynedd.
FFAITH: Mae dros 50% o drigolion Gwynedd ddim yn bwyta’u 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob diwrnod. Nid dim ond am fwyta digon o ffrwythau a llysiau y mae bwyta’n iach, mae’n golygu bwyta deiet cytbwys.Mae angen peth braster arnom. Mae’n bwysig cynnwys rhywfaint o fraster yn ein deiet am ei fod yn helpu’r corff i amsugno rhai fitaminau, mae’n ffynhonnell dda o egni ac yn ffynhonnell o’r asidau brasterog hanfodol na all y corff eu cynhyrchu ei hun.
Ond mae gormod o fraster yn rhoi i ni fwy o egni na sydd ei angen arnom, sy’n golygu ein bod yn debygol o fagu pwysau. Os wyt ti am fwyta’n iach a chynnal pwysau iach, edrycha am fwydydd sy’n cynnwys llai o fraster lle bo’n bosibl a cheisia fwyta bwydydd llawn braster o dro i dro yn unig.
Her Iechyd Gwynedd yw ein fersiwn lleol ni o Her Iechyd Cymru sy’n galw ar bawb – pob unigolyn a sefydliad - i wneud cymaint ag y gallant i wella iechyd.
Defnyddiwch y panel llywio ar ochr chwith y sgrin i’ch tywys drwy themâu Her Iechyd Gwynedd.
Os ydych chi’n teimlo bod rhywbeth ar goll neu os hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau.
Healthy Recipe Ideas beth ydy dogn o ffrwyth a llysiau bwyd iach ar arian bach
Am wybodaeth am fwyta’n iach adeg disgwyl plentyn, adeg bwydo o'r fron ac ar gyfer bwydo plentyn o’r cyfnod babandod i gyfnod yr arddegau, ewch iwefan bwyta'n iach yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dros 50?
Pan rydych yn mynd yn hŷn mae bwyta’n iach ru’n mor bwysig, ond mae rhai mathau o faeth mae eich corff angen fwy ohono fel haearn a bwydydd llawn calsiwm.










