Camddefnyddio alcohol

 Alcohol and substance misuse

Nid yw 77% o oedolion ym Mhrydain yn gwybod faint o unedau sydd mewn gwydriad o wîn – ydach chi?

MYTH:Mae eich corff yn datblygu goddefedd i alcohol os ydych yn yfed llawer yn rheolaidd.

GWIR: Po fwyaf ydych yn ei yfed y mwyaf o niwed sydd i’ch corff a po fwyaf y risgiau. Mae goddefedd yn rhybudd fod eich corff wedi dechrau cael ei effeithio gan alcohol.

Mae’r Adran Iechyd yn awgrymu na ddylai dynion yfed mwy na 3-4 uned o alcohol y dydd yn rheolaidd ac ni ddylai merched yfer fwy na 2-3 uned o alcohol y dydd yn rheolaidd.

Alcohol

Goryfed

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mwynhau diod o dro i dro ac y rhan fwyf o’r amser tydi yfed ddim yn creu problemau ond mae goryfed yn gallu bod yn niweidiol.

Faint o unedau sydd yn dy ddiod di?

3 uned
1 peint o larger neu seidr cryf
(5% vol. +)
2 uned
1 peint o chwerw neu seidr arferol
2 uned
gwydriad bach o win
(175ml)
1.5 uned
1 Alcopop
1 uned
1 mesur o wirodydd
(25ml)
Mae’r uchod wedi eu amcangyfrif ac dylech bob tro wirio pa fesur rydych wedi ei dderbyn. Mae uned o alcohol yn 10ml o alcohol pur.