Cadwch yn y


Newyddion

Mae’r newyddion sy’n dilyn wedi ei fwydo i mewn o brif wefan Her Iechyd Cymru:

Newyddion

Bwyta’n Gall Llyfr coginio

Food and nutrition

Mae’r llyfr rysetiau coginio hwn wedi ei greu i gyd fynd â chyrsiau sgiliau coginio Her Iechyd Gwynedd.

Mae Cynghrair Her Iechyd Gwynedd yn ddiolchgar iawn i gronfa Cymorth am gefnogaeth ariannol i gynnal y cyrsiau sgiliau coginio ac hefyd i Anwylyd Jones, hyfforddwraig sgiliau coginio sydd wedi cyfrannu yn helaeth tuag at y rysetiau. Diolch hefyd am fewnbwn y dietegydd Pauline Rigby.

cookbook

Dyma ychydig o eiriau gan ein partneriaid

Mae Coleg Menai yn falch o gael y cyfle i gydweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y gymuned i gynnig cyrsiau sy’n ateb gofynion y gymuned leol. Anelwyd y cysriasu yr ydym yn eu cefnogi at rieni ifanc sydd eisiau gwybod mwy am baratoi a choginio bwydydd maethlon (o fewn cyllideb) ar gyfer y teulu.

Mae’r cwrs yn un ymarferol sy’n rhoi cyfle i rieni ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau coginio o dan arweiniad tiwtor profiadol. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn ennill credydau Coleg Agored ar ddiwedd y cwrs.

Cymorth

Mae “Cymorth - y Gronfa Cefnogi Plant ac Ieuenctid” yn anelu at ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd o deuluoedd difreintiedig.

Cefnogir y Cynllun ‘Bwyta’n Gall’ oherwydd bod lleihau amddifadedd yn flaenoriaeth. Mae’r cynllun yn hyrwyddo datblygiad iach pob plentyn ac unigolion ifanc sydd yn gam allweddol mewn sicrhau bod plant yn mwynhau iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol.