Cyngor Gwynedd yn sicrhau urddas a pharch i bawb
Dydd Iau, 14 Mai 2009
Mae pawb yn haeddu cael eu trin ag urddas a nod cynllun newydd fydd sicrhau fod pobl hŷn a bregus yn ein cymuned yn cael eu trin gyda’r un parch â phawb arall.
Lansiwyd Siarter Urddas a Pharch, sy’n amlinellu hyn, mewn digwyddiad a drefnwyd ar y cyd rhwng Cymunedau Iechyd a Gofal Gwynedd a Môn – sef grŵp sy’n darparu gwasanaethau iechyd – yn Technium Cast, Parc Menai, Bangor 3 Ebrill 2009.
Mae’r Siarter newydd yn taclo pedwar maes:
- Dangos Parch
- Preifatrwydd
- Hunan Barch
- Annibyniaeth
Mae Cymunedau Iechyd a Gofal Gwynedd a Môn yn hyderus bydd y siarter yn hyrwyddo urddas drwy sicrhau preifatrwydd pobl sy’n derbyn gofal; rhoi dewis iddynt; cael caniatâd yr unigolyn cyn darparu gofal; sicrhau fod gan y person gefnogaeth ac arweiniad a rhywun sy’n barod i ddadlau eu hachos.
Er mwyn pwysleisio’r neges mae cardiau Her Urddas wedi eu argraffu fydd yn cael eu dosbarthu i gartrefi preswyl, staff gofal a theuluoedd pobl sy’n derbyn gofal. Mae’r cardiau yn amlinellu’r siarter ac yn atgoffa pobl o’u hawliau.
Mynychwyd y lansiad gan fwy na 100 o bobl gan gynnwys pobl hyn sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd a gofal a gweithwyr yn y maes. Roedd yn gyfle iddynt gael blas o’r ddarpariaeth ac i ddylanwadu ar gynnwys rhaglen weithredu’r Siarter Urddas Mewn Gofal.
Cadeirydd y cyfarfod oedd Dr Lyndon Miles, meddyg lleol o Fangor a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a Phartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd. Un o’r siaradwyr gwadd y lansiad oedd yr Athro Clare Wenger, Athro Emeritus Prifysgol Bangor, sy’n awdurdod ar astudiaethau heneiddio. Bu’n sôn am ei phrofiadau personol diweddar o wasanaethau iechyd a gofal. Amlinellwyd amryw o gynlluniau newydd hefyd gan Janette Hamilton o Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru.
Yn ystod y lansiad clywyd am brofiadau defnyddwyr gwasanaeth ar ffurf drama a ysgrifennwyd gan Mared Lewis o Fôn.
Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Uwch Arweinydd Portffolio Gofal Cyngor Gwynedd:
Mae urddas yn elfen hanfodol o ansawdd bywyd. Mae’n bwysig ein bod fel cymuned yn adnabod fod urddas person yn cyfrannu at iechyd, lles, annibyniaeth, a’i fod yn elfen allweddol o’r gofal gorau.
Mae hyrwyddo Urddas Mewn Gofal yn golygu darparu gofal, mewn unrhyw sefyllfa, drwy urddas ac yn parchu hunan-barch person.








