Cefnogwch ein mamau i roi’r cychwyn gorau i’w babis!
Dydd Gwener, 08 Mai 2009
Cydnabyddir fod bwydo o’r fron yn ffordd ardderchog o roi’r cychwyn gorau posib i blant mewn bywyd.
Mewn arolwg diweddar o famau lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru nododd 75% mai’r ymyrraeth fwyaf buddiol ar gyfer cefnogi mamau newydd i fwydo o’r fron fyddai rhwydwaith o leoliadau sydd yn croesawu teuluoedd sydd yn bwydo o’r fron.
Fel rhan o Wythnos Hyrwyddo Bwydo o’r Fron 11-17 o Fai, mae Grŵp Llywio Bwydo o’r Fron Gwynedd a Môn yn annog lleoliadau cyhoeddus lleol i arwyddo i fyny i gynllun ‘Croesawu Bwydo o’r Fron’ Llywodraeth y Cynulliad.
Mae ymchwil yn dangos fod llaeth mam yn cynnig buddion iechyd hir dymor ar gyfer babis yn nhermau eu hamddiffyn rhag haint, clefyd siwgr plant a gordewdra gyda budd ar gyfer mamau hefyd, mae marched sydd yn bwydo o’r fron gyda llai o siawns o ddatblygu canser y fron neu’r ofari. Yn anffodus yng Nghymru mae ganom gyfraddau bwydo o’r fron gyda’r isaf yn Orllewin Ewrop.
Mae llawer o sefydliadau, cwmnïau trafnidiaeth cyhoeddus a chanolfannau cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru eisoes yn rhan o’r cynllun ac yn cynnig awyrgylch croesawgar ar gyfer mamau a’u babis.
Dywedodd Sharon Breward Cydlynydd Bwydo Pant ar yfer Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru “ Bydd taflen newydd yn rhestru’r holl leoliadau sy’n Croesawu Bwydo o’r Fron’ yn cael ei gyhoeddi’n fuan, bydd y daflen hon yn cael ei roi i bob mam newydd gan eu bydwraig neu ymwelydd iechyd. Yn y cyfnod yma o wasgfa ariannol gall pob busnes fanteisio ar rywfaint o gyhoeddusrwydd am ddim - felly arwyddwch i fyny i’r cynllun a rhowch hwb i famau newydd!
Mae’r cynllun y agored i gaffis, siopau trin gwall, siopau, canolfannau cymunedol, unrhyw fan cyhoeddus a dweud y gwir. Os yr hoffech enwebu leoliad cyhoeddus i ymuno gyda’r cynllun gallwch lawr lwytho ffurflen gofrestru oddi ar Anglesey.gov.uk/health neu heriechydgwynedd.org.uk neu ffonio 01248 752 837 i dderbyn ffurflen drwy’r post.








