Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymweld â Gwynedd

Mae Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf Cymru wedi ymweld Gwynedd fel rhan o daith i gasglu gwybodaeth am faterion amrywiol faterion sy’n cael effaith ar fywyd pobl hŷn yng Nghymru.

Wales’ Older People's Commissioner visits Gwynedd

Fel rhan o’i hymweliad diweddar â Gwynedd, cafodd Ruth Marks gyfle i ymweld a swyddfeydd Age Concern Gwynedd a Môn ac yno cafodd gyfle i gyfarfod swyddogion Age Concern, Cydlynydd a Swyddogion Strategaeth Pobl Hŷn Gwynedd yn ogystal â Phencampwr Pobl Hŷn Cyngor Gwynedd.

Roedd aelodau o Fforymau Age Concern a Chyngor Pobl Hŷn Gwynedd yn bresennol hefyd, a rhoddodd Ruth Marks gyflwyniad iddyn nhw ar swyddogaeth y Comisiwn a’r her fydd yn eu wnebu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Nododd y Comisiynydd ei bod yn falch o weld fod mudiadau gwirfoddol a chyrff cyhoeddus yn gweithio yn dda gyda’i gilydd yn yr ardal gyda’r un nod o wella gwasanaethau i bobl hŷn.

Yn dilyn y cyfarfod yn swyddfeydd Age Concern, aethpwyd ymlaen i Benygroes er mwyn cael cyfle i weld gwasanaeth teleofal Cyngor Gwynedd ar waith. Mae’r system yn galluogi pobl hŷn a bregus i allu parhau i fyw yn annibynnol yn eu cartref gyda chymorth technoleg fodern.

Yna, symudwyd ymlaen i Glwb Cinio Penygroes er mwyn cyfarfod ag aelodau yno sy’n cael budd o gael dau bryd poeth yr wythnos.

Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i bobl cael cyfarfod wyneb yn wyneb gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac roedd Ruth Marks yn barod iawn i ateb cwestynnau pawb.