Iechyd da Gwynedd
Dydd Mercher, 05 Tachwedd 2008
Bydd Gwynedd yn rhan o ymgyrch genedlaethol i hybu ffordd iach o fyw yn ystod mis Tachwedd (2 a 8 Tachwedd) fel rhan o Wythnos Byw’n Iach sy’n cael ei drefnu gan gan Lywodraeth y Cynulliad.
Bwriad yr ymgyrch ar yr un llaw yw annog unigolion i wneud newidiadau i’r ffordd maent yn byw er budd eu hiechyd, ac ar y llaw arall i hybu cwmnïau a mudiadau i drefnu digwyddiadau i hybu byw yn iach.
Cyngrair Her lechyd GwyneddUn o’r prif ddigwyddiadau yn lleol fydd lansio gwefan newydd Her Iechyd Gwynedd yn Llyfrgell Caernarfon ar ddydd Iau, 6 Tachwedd am 4pm.
Bwriad y wefan yw darparu gwybodaeth am sut i wella iechyd o fewn y meysydd canlynol:
- Ysmygu
- Bwyd a ffitrwydd
- Damweiniau ac anafiadau
- Camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill
- Heintiau
Bydd tîm Her Iechyd Gwynedd yn darparu gwybodaeth ar draws y gymuned yn ystod Wythnos Byw’n Iach hefyd.
Bydd pob meithrinfa a gofalydd plant yn y sir yn derbyn posteri yn annog bwyta’n iach yn ystod y cyfnod yma, wedi ei seilio ar yr ymgyrch o gael pawb i fwyta pum darn o ffrwyth neu lysieuyn y dydd.
Yn ystod Wythnos Byw’n Iach bydd holl staff Cyngor Gwynedd yn derbyn e-bost yn amlinellu rhai syniadau ar sut i wella eu hiechyd, o gyngor ar fwyd ac ymarfer corff i wybodaeth angenrheidiol am alcohol.
Dywedodd Llinos Owen, Hwylusydd Her Iechyd Gwynedd:
TDyma’r drydedd tro i ni gynnal gweithgareddau Wythnos Byw’n Iach. Ein bwriad yw creu bwrlwm o ddigwyddiadau a gwybodaeth am bob math o bethau sy’n effeithio ar iechyd pobl Gwynedd.
Rydym eisiau i bobl ddeall y gall camau bychan wneud byd o wahaniaeth i’w iechyd - newidiadau syml fel cymryd llai o halen yn eu bwyd, ychydig o ymarfer corff rheolaidd a bod yn ymwybodol o’r cyngor sydd ar gael i bobl.








