Cadwch yn y


Newyddion

Mae’r newyddion sy’n dilyn wedi ei fwydo i mewn o brif wefan Her Iechyd Cymru:

Newyddion

Gwynedd yn Cefnogi Wythnos Bwydo o'r Fron

News

Wrth i Wynedd fod yn un o'r gwledydd gyda lefelau bwydo o'r fron isaf yng Ngorllewin Ewrop, mae'r Wythnos Ymwybyddiaeth Bwydo o'r Fron genedlaethol (11 - 17 Mai) yn anelu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fwydo o'r fron, a'r manteision cysylltiedig i'r fam a'r baban.

Mae'r wythnos wedi ei threfnu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn cael ei chefnogi yng Ngwynedd gan Gynghrair Iechyd y sir gyda'r nod o hyrwyddo pwysigrwydd bwydo o'r fron.

Dywedodd Llinos Owen, Cydlynydd Iechyd a Lles Cyngor Gwynedd a chadeirydd Grŵp Strategol Bwydo o'r Fron Gwynedd:

Fel grŵp, rydym yn anelu i godi ymwybyddiaeth am y manteision iechyd y mae bwydo o'r fron yn ei gynnig i'r baban gyda mwy o amddiffyniad yn erbyn gastro-enteritis, haint ar y frest a'r glust, clefyd siwgr ac alergeddau, ac afiechydon eraill, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i famau sydd yn dewis bwydo o'r fron.

Ein nod yn ystod yr wythnos yw dathlu llwyddiannau'r mamau hynny sydd wedi dewis bwydo eu babanod o'r fron ac i annog mwy o famau i roi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'w plant. Nid yn unig y mae babanod sydd yn cael eu bwydo gyda llaeth y fam yn iachach, mae'r mamau hefyd yn llai tebygol o ddioddef o gancr y fron a chancr y groth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â bwydo o'r fron yng Ngwynedd, cysylltwch â Llinos Owen, Cydlynydd Iechyd a Lles Gwynedd ar 01286 679065.

Mae yna nifer o fanteision i fwydo o'r fron. Hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr mae hyn yn bosib, gall imiwnedd y baban elwa o laeth y fam. Mae nifer o fanteision eraill i fwydo o'r fron, a hynny i'r fam, y baban a'r gymuned:

Manteision i'r baban:

  • Llaeth y fron yw'r ffurf fwyaf cyflawn o faeth i fabanod. Mae gan laeth y fam y cydbwysedd perffaith o fraster, siwgr, dŵr a phrotein sydd ei angen ar faban i dyfu a datblygu. Mae'r rhan fwyaf o fabanod yn ei chael yn haws i dreulio llaeth y fam na bwyd fformiwla.
  • O ganlyniad, mae babanod sydd wedi eu bwydo o'r fron yn tyfu yn union fel ag y dylent. Maent yn llai tebygol o roi gormod o bwysau ymlaen. Gall hyn olygu y bydd y plentyn yn llai tebygol o fod yn ordew yn hwyrach ymlaen mewn bywyd.
  • Mae babanod sydd wedi eu geni yn fuan yn gwneud yn well o'u cymharu â babanod sydd yn cael eu bwydo o fwyd fformiwla.
  • Mae babanod sydd wedi eu bwydo o'r fron yn sgorio ychydig yn uwch mewn profion IQ, yn enwedig babanod sydd wedi eu geni yn fuan.

Manteision i'r Fam:

  • Mae bwydo o'r fron yn defnyddio mwy o galorïau, sydd yn ei gwneud yn haws o golli'r pwysau ychwanegol yn dilyn beichiogrwydd. Mae hefyd yn helpu'r groth i ddod yn ôl i'w maint arferol ac yn lleihau unrhyw waedu y bydd yn fam yn ei brofi yn dilyn rhoi genedigaeth.
  • Mae bwydo o'r fron, yn enwedig bwydo o'r fron unigryw (dim bwyd fformiwla o gwbl) yn oedi dychweliad cylchred y misglwyf. (Fodd bynnag, dylech drafod gyda'ch meddyg doctor am eich dewis o ddulliau atal cenhedlu.)
  • Mae bwydo o'r fron yn lleihau'r risg o gancr y fron a chancr y groth, ac o bosib y risg o dorri'r glun ac osteoporosis yn dilyn y cyfnewid (menopause).
  • Mae bwydo o'r fron yn gwneud eich bywyd yn haws. Mae'n arbed amser ac arian. Does dim rhaid i chi brynu, mesur na chymysgu fformiwla. Does dim angen cynhesu poteli yng nghanol y nos!
  • Gall mam fodloni ei phlentyn ar unwaith drwy roi llaeth i'r baban pan mae'n llwglyd.
  • Mae bwydo o'r fron yn gofyn am amser tawel a hamddenol rhwng y fam a'r baban.
  • Gall bwydo o'r fron helpu mam i agosáu at ei baban. Mae cysylltiad corfforol gyda baban newydd anedig yn eu helpu i deimlo yn fwy diogel, cynnes a chysurus.
  • Mae gan famau sydd yn bwydo o'r fron fwy o hunanhyder ac ymdeimlad o agosatrwydd at eu baban.

Manteision i'r Gymuned:

  • Mae bwydo o'r fron yn arbed ar gostau iechyd. Mae cyfanswm costau meddygol y wlad yn is ar gyfer babanod sydd yn cael eu bwydo o'r fron oherwydd, ar y cyfan, maent angen llai o ymweliadau iechyd, presgripsiwn, a chyfnodau yn yr ysbyty.
  • Mae bwydo o'r fron yn cyfrannu tuag at weithlu mwy cynhyrchiol. Mae mamau sydd yn bwydo o'r fron yn colli llai o waith gan fod eu plant yn llai tebygol o fod yn sâl.
  • Mae bwydo o'r fron yn well i'r amgylchedd oherwydd mae llai o ysbwriel a gwastraff plastig o'i gymharu â bwyd fformiwla a photeli.