Ar dy Feic!
Dydd Llun, 25 Awst 2008
Mae gwaith pwysig o uwchraddio llwybr Lôn Las Menai rhwng Caernarfon a'r Felinheli yn dirwyn i ben yn fuan, a gyda'r tywydd yn gwella mae'n amser da i fentro ar gefn eich beic.
Bu'r Lon Las ar gau i'r cyhoedd yn ddiweddar wrth i'r Cyngor fynd ati i ail wynebu'r llwybr ac adnewyddu dwy bont bren ger Plas Brereton. Derbyniwyd cefnogaeth i'r cynllun hwn gan Lywodraeth y Cynulliad ac Asiantaeth Cefn Ffyrdd Gogledd Cymru.
Meddai Mark Balaam, Uwch Warden Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd:
Hoffai'r Cyngor ddiolch i bawb sy'n defnyddio llwybr y Lon Las am fod mor amyneddgar ac am y gefnogaeth a dderbyniwyd trwy gydol y gwaith.
Criw o ddisgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon oedd y rhai cyntaf i fanteisio yn llawn o'r adnodd lleol pwysig hwn wrth iddynt deithio i'r ysgol ar gefn beic.
Meddai Trystan Gwilym, Swyddog Pobl Ifanc Egniol Cyngor Gwynedd:
Mae'r teithiau beic i ac adref o'r ysgol wedi eu trefnu fel rhan o gynllun newydd gyda'r ysgol leol.
Mae'r fenter hon yn rhan o gynllun 5x60 ariannir gan Lywodraeth y Cynulliad i roi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol y tu allan i oriau ysgol.
Gyda chefnogaeth staff, bydd teithiau yn cael eu trefnu'n gyson o'r Felinheli ac o Lanwnda ar hyd llwybrau di-draffig y Lonydd Glas.








