Gwynedd yn hyrwyddo Wythnos Diogelwch Plant
Dydd Llun, 25 Awst 2008
A hithau’n wythnos genedlaethol diogelwch plant (23 - 29 Mehefin), neges Cynghrair Her Iechyd Gwynedd yw y gall newidiadau bychain yn ein bywydau pob dydd wneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch plant.
Mae hyn yn neges bwysig o ystyried fod ffigyrau yn dangos fod oddeutu 14,990 o blant yng Nghymru o dan 5 oed wedi eu hanafu yn y cartref yn 2004. I riant neu daid neu nain, gallai hyn olygu gyrru yn arafach mewn ardaloedd lle mae plant allan yn chwarae, gosod offer diogelwch yn y cartref neu symud teclynnau allai achosi niwed i blant.
Dywedodd Darren Griffiths, Cydlynydd Strategol Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd:
Gall pob un ohonom wneud newidiadau bychain er mwyn diogelu plant - boed hynny yn y cartref drwy osod giatiau grisiau a larymau mwg, neu ar y ffordd drwy gymryd pwyll arbennig mewn ardaloedd lle mae plant yn chwarae.
Yn aml iawn pethau syml iawn sy’n achosi damweiniau, ac felly, gydag ychydig o newidiadau bach iawn gellir sicrhau diogelwch plant ledled y sir.
Fel rhan o weithgareddau’r wythnos, ac er mwyn codi ymwybyddiaeth am sut i osgoi damweiniau ac anafiadau yn y cartref, mae Cynghrair Her Iechyd Gwynedd, mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd, wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Diogelwch Plant megis:
- Sesiwn hyfforddiant gan RoSPA (Royal Society for the prevention of accidents) ar gyfer gweithwyr proffesiynol (Ymwelwyr Iechyd, Staff Cymunedau’n Gyntaf) ar 25 Mehefin
- Sesiwn grŵp rhieni gyda chynrychiolydd RoSPA - Cymunedau’n Gyntaf De Pwllheli ar 25 Mehefin
- Posteri gyda phlant lleol yn dangos sut i fod yn ddiogel yn y cartref i’w gweld ym mhob Meithrinfa, Cylch Meithrin, Gofalwr Plant a Syrjeri / clinig iechyd yng Ngwynedd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Llinos Owen, Hwylusydd Iechyd a Lles Cyngor Gwynedd ar01286 679 065 neu e-bostio: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.








