Magu Gwynedd iachach
Dydd Mercher, 26 Mawrth 2008
A hithau’n Wythnos Genedlaethol Bwydo’r Fron (13- 19 Mai), mae nifer o asiantaethau cyhoeddus a busnesau preifat ledled Gwynedd gan gynnwys Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i gynllun Croesawu Bwydo’r Fron.
Gwynedd yw’r Sir cyntaf yng Nghymru lle mae holl fferyllwyr wedi arwyddo i’r cynllun. Yn ystod yr wythnos, bydd Grŵp Strategol Bwydo’r Fron Gwynedd yn annog busnesau a sefydliadau i ymuno a chynllun Croesawu Bronfwydo. Wrth ymuno â’r cynllun, byddant yn cael eu cynnwys ar daflen arbennig sy’n rhestru’r holl fusnesau a lleoliadau sydd yn croesawu mamau a’u babanod.
Y bwriad yw y bydd pob eiddo sydd wedi arwyddo i’r cynllun yn arddangos poster sy’n amlygu eu bod yn croesawu mamau i fwydo eu babanod yno. Bydd taflenni gyda rhestr o’r siopau yn cael ei roi i famau newydd yn Ysbyty Gwynedd, ac yn cael eu dosbarthu yn y cartref gan bydwraged cymunedol ac ymwelwyr iechyd.
Dywedodd Llinos Owen, Hwylusydd Iechyd a Lles Gwynedd:
Rydym yn falch fod cymaint o siopau a busnesau ledled y Sir bellach yn rhan o’r cynllun pwysig hwn, gan gynnwys Cyngor Gwynedd. Ein nod yw ei gwneud yn haws i famau fwydo eu babanod tra’u bod allan yn siopa neu’n mynd am dro.
Mae ymchwil yn dangos fod babanod sy’n cael eu bwydo ar laeth eu mam yn iachach. Mae babanod sydd wedi cael llaeth eu mam yn fwy tebygol o gael eu gwarchod rhag nifer o heinitiau. Hefyd, mae plant sydd wedi cael llaeth eu mam pan yn fabanod yn llai tebygol o ddatblygu’r fogfa ac ecsema, clefyd siwgr a gordewdra yn ystod plentyndod yn ogystal â bod â lefel IQ uwch a llai o broblemau deintyddol.
Ychwanegodd Sharon Breward, Cydlynydd Bwydo’r Fron Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru:
“Mae’n bwysig ein bod yn gallu annog mamau i roi’r cychwyn gorau posib i’w plant. Nid yn unig mae babanod sy’n derbyn llaeth eu mam yn iachach, mae’r mamau hefyd yn llai tebygol o ddioddef o gancr y fron a chancr ofaraidd.”
Mae Grŵp Strategol Bwydo’r Fron Gwynedd hefyd wedi bod yn llwyddiannus gyda chais am bron i £4,000 o arian o Gronfa Cymorth tuag at archebu adnoddau i helpu bydwragedd baratoi mamau am bron-fwydo yn ei beichiogrwydd a hefyd offer i helpu mamau i barhau rhoi llefrith i’w babi os ydynt mewn amgylchiadau anodd e.e y babi yn gorfod bod yn yr ysbyty.
Yn ogystal â lansio taflen Croesawu Bwydo’r Fron, bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal fel rhan o Wythnos Genedlaethol i hyrwyddo Bwydo’r Fron, gan gynnwys taith gerdded arbennig i famau ym Mharc Gwledig Glynllifon ar ddydd Gwener, 18 Mai am 12:00. Mae Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru hefyd wedi trefnu diwrnod codi ymwybyddiaeth arbennig ar gyfer staff Ysbyty Gwynedd, gyda Sue Sky, Cydlynydd Bwydo’r Fron y Cynulliad Cenedlaethol yn annerch y cyfarfod.
Am gopi o’r daflen Croesawu Bwydo’r Fron, cysylltwch â Sharon Breward, Cydlynydd Bwydo’r Fron Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ar 01248 600538; neu Llinos Owen, Hwylusydd Iechyd a Lles Gwynedd ar 01286 679433.








