Cadwch yn y


Newyddion

Mae’r newyddion sy’n dilyn wedi ei fwydo i mewn o brif wefan Her Iechyd Cymru:

Newyddion

Newyddion

Dydd Mercher, 26 Mawrth 2008

Adults home page

Argymhellir y dylai oedolion fod yn gwneud o leiaf 30 munud o ymarfer cymedrol 5 gwaith yr wythnos neu 5x30.

FFAITH: Dim ond 35% o oedolion Gwynedd sy'n gwneud yr oriau a argymhellir o weithgarwch corfforol yr wythnos

FAITH: Dim ond 30 munud o weithgarwch cymedrol ddwys bum niwrnod yr wythnos ydych chi angen ei wneud i fyw’n iach. Mae hynny’n cyfateb i ddim ond 1.5 y cant o’r amser sydd mewn wythnos o saith niwrnod! Gellir rhannu’r 30 munud yn flociau llai hyd yn oed, gyda sesiynau 3 x 10 munud neu 2 x 15 munud – sydd yr un mor effeithiol

Nid yw’r nod hwn yn anodd ei gyrraedd hyd yn oed os ydych chi’n gweithio mewn swyddfa bob dydd neu os ydych chi'n teimlo nad oes gennych chi'r amser na'r egni, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dilyn ein hawgrymiadau a'r dolenni i weithgareddau sydd ar gael yng Ngwynedd.

If outdoor activities are your thing Gwynedd has a wealth of opportunities for you to discover.

Gwynedd Leisure centres offer a variety of activities which are offered at a discouted rate if your under 24.

walking

Fel y gwyddom i gyd mae cyfoeth o lwybrau cerdded yng Ngwynedd sy’n hwylus i bob person yng Ngwynedd. Hyd yn oed os ydych chi’n byw mewn tref, gallwch fanteisio ar un o'n 'Teithiau Trefol' niferus sy’n ddelfrydol ar gyfer mynd am dro bach sydyn amser cinio.

Os ydych chi'n teimlo’n anturus, beth am roi cynnig ar  Cerdded Nordaidd sy’n ffordd hwyliog a chyffrous o gadw’n heini.

Os ydych chi wedi bod yn wael yn ddiweddar ac am gael ffordd hamddenol o ddychwelyd at gerdded, mae cerdded llwybr iechydyn ddelfrydol.

Cofiwch: mae cerddwyr yn cael llai o ganser, clefyd y galon, strôc, diabetes a chlefydau eraill sy’n lladd. Maen nhw’n byw’n hirach ac yn cael manteision lles ac iechyd meddwl.

family cycling

Mae seiclo beunyddiol, sy'n golygu y byddwch yn anadlu'n drwm ond heb fod wedi colli’ch anadl, yn fath effeithiol a phleserus o ymarfer aerobig. Dyma’r math o ymarfer sydd fwyaf effeithiol ar gyfer hybu iechyd da. Er enghraifft, mae seiclo'n lleihau’r risg o gyflyrau difrifol megis clefyd y galon, pwysau gwaed uchel, gordewdra a’r math mwyaf cyffredin o ddiabetes.

Mae taith feic 15 munud i'r gwaith ac yn ôl bum gwaith yr wythnos yn llosgi'r hyn sy'n cyfateb i 11 pwys o fraster mewn blwyddyn.

Gall seiclo gael effaith gadarnhaol ar y ffordd yr ydym yn teimlo hefyd. Canfuwyd bod ymarfer cymedrol yn lleihau lefelau iselder a straen, yn gwella sut y mae pobl yn teimlo ac yn gwella hunan-werth, a chanfuwyd hefyd ei fod yn lleihau symptomau syndrom cyn mislif.

Mae llawer o lwybrau beicio diogel yng Ngwynedd y gallwch eu dilyn am ddim! Neu ar gyfer y rhai mwy anturus mae llwybrau beicio mynydd arbennig ar gael ar garreg eich drws.

Gwnewch yn siŵr fod eich beic yn ddiogel drwy fynd ag ef i’r siop feicio leol am MOT.

joggingMae loncian neu redeg yn un o’r gweithgareddau gorau y gall y rhan fwyaf o bobl ei wneud i wella’u hiechyd. Gall rhedeg yn rheolaidd helpu pobl i golli pwysau, gwrthsefyll heneiddio a heintiau, a helpu'n gyffredinol i aros yn iach.

Mae nifer o heriau rhedeg y gallwch chi gyfrannu atynt a hyfforddi ar eu cyfer yng Ngwynedd:

Ras dros fywyd

Rasio'r Trên Tywyn

Beth am roi cynnig ar Beth am roi cynnig ar sy’n mapio llwybrau ar gyfer rhoi un neu fwy o ffyrdd i chi gael eich 30 munud o ymarfer mewn un lle.

Am fwy o wybodaeth am Ddatblygu Chwaraeon gan gynnwys PESS (AG a Chwaraeon Ysgol), Campau’r Ddraig a Chwaraeon Anabledd Cymru cerwch i weld tudalennau Datblygu Chwaraeon Cyngor Gwynedd.