Croeso

Mae Cynghrair Her Iechyd Gwynedd yn grŵp aml-asiantaethol sydd yn gyrru ymlaen prosiectau hybu iechyd a lles yng Ngwnedd.

Fe arienni’r Gynghrair drwy arian grant Her Iechyd Cymru gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae Her Iechyd Cymru yn rhoi sylw i chwe thema sy'n cyfrannu at iechyd gwael. Yn aml, canlyniad dewis o ffordd o fyw yw'r iechyd gwael hwn. Felly gall pobl osgoi hyn os ydynt yn newid eu hymddygiad. Cymerwch gip ar ein cyngor o dan y themâu sy'n bwysig i chi.

  • Ysmygu
  • Bwyd a maeth
  • Ymarfer Egniol
  • Atal damweiniau ac anafiadau
  • Camddefnyddio alcohol
  • Afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol
  • Hybu iechyd meddwl a lles