Amdanom ni
Grŵp amlasiantaethol yw Cynghrair Gwella Iechyd Gwynedd sydd yn gyrru prosiectau a chynlluniau iechyd a lles ataliol yn eu blaen yng Ngwynedd.
Fe gefnogi'r y Gynghrair drwy arian grant Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Her Iechyd Cymru yw'r ffocws cenedlaethol ar gyfer ymdrechion i wella iechyd a lles.
Mae'n cydnabod bod amrywiaeth eang o ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael effaith ar iechyd, felly gall gweithredu ym mhob un o'r meysydd hyn helpu i greu cenedl iachach. Y themau allweddol yw:
- Ysmygu
- Bwyd a maeth
- Ymarfer Egniol
- Atal damweiniau ac anafiadau
- Camddefnyddio alcohol
- Afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol
- Hybu iechyd meddwl a lles
Prif nod creu'r wefan hon yw darparu gwybodaeth ar y themau uchod ynghyd a ffactorau eraill sydd yn effeithio ar iechyd a lles. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar sut y gall unigolion gymeryd yr her o wella eu hiechyd a lles eu hunain.






